Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/261

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bendith." Y mae yr Hybarch Robert Hughes (M.C.), Gaerwen, mewn llythyr gwerthfawr o'i eiddo atom, yn cyfeirio hefyd, at awyddfryd ein gwrthddrych i wneuthur daioni yn mhob lle yr arhosai ynddo. Wele ddyfyniad o'i lythyr:—" Yr wyf yn cofio yn dda am y diweddar Barchedig W. Williams o'r Wern; un o'r dynion teilyngaf a fu mewn pulpud erioed yn Nghymru. Y tro cyntaf i mi ei glywed oedd, pan oeddwn yn fachgen ieuanc yn Nghapel yr Annibynwyr yn Mhorth Amlwch. Pregethai oddiar eiriau gwahanol ar ddyledswydd a gras, sef 'Ceisiwch yr Arglwydd tra y galler ei gael ef, gelwch arno tra fyddo yn agos.' 'Ceisiwyd fi gan y rhai ni ymofynasant am danaf; cafwyd fi gan y rhai ni'm ceisiasant, dywedais, wele fi, wrth genedlaeth ni alwyd ar fy enw i.' Amcan y bregeth ragorol hono ydoedd cysoni dyledswydd a gras. A gwnaed hyny yn ardderchog hefyd. Yr ydych yn cyfeirio at ei ymweliad â'r Cefndu. Yr oedd yn pregethu yn Cana, a daeth i letya i'r Cefndu. Boreu dranoeth, yn ol yr arfer, yr oedd yno addoliad teuluaidd, a Mr. Williams wrth reswm oedd yn gwasanaethu. Yr oedd yno rhwng y gwr, y wraig, y plant, a'r gweinidogion lonaid yr ystafell. Ar ol myned drwy yr addoliad teuluaidd, gofynodd Mr. Williams i Mr. Roberts, a gai efe ymddyddan gair o'r neilldu â'r oll o'i weinidogion. Byddaf ddiolchgar i chwi am wneud, ebai Mr. Roberts. Wedi hyny efe a ymneillduodd