Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/262

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r parlwr, ac a ymddyddanodd â phob un o honynt yn bersonol, gan roddi iddynt gynghorion priodol, yr hyn, mae'n debyg a fu yn lles iddynt am eu hoes. Yr oedd Mr. Williams yn ddyn Duw, ac yn amcanus i wneuthur daioni i'w gydbechaduriaid yn mhob man, bob amser. Nid yn yr areithle yn unig. Gwnaed yr Arglwydd ein holl bregethwyr yn gyffelyb iddo yn hyny."

Yr oedd cael cefnogaeth a nawdd y fath bregethwr, ac un oedd mor awyddus i berarogli Crist yn mhob lle, ag ydoedd ein gwrthddrych, yn sicrwydd bron am lwyddiant unrhyw symudiad yr ymgymerai efe âg ef. Ysgrifenyddion y "cydymegniad cyffredinol" oeddynt y Parchn. D. Morgan, Machynlleth; a S. Roberts, M.A., Llanbrynmair; a chyda'r fath wŷr medrus, buasid yn dysgwyl llwyddiant ar y gwaith, ac felly y bu. Cyhoeddasent adroddiad llawn a manwl o'r casgliadau ar derfyn yr ymdrech, yr hwn sydd yn awr ger ein bron, a chan y tybiwn mai i ychydig yn yr oes hon y rhoddwyd y fraint o'i weled, rhoddwn yma yr 'Anerchiad' sydd ar ei ddechreu, "Wele yr adroddiad o'r 'cydymegniad cyffredinol' weithian gerbron y Cymry. Gwnaeth ysgrifenwyr yr Undeb Cyffredinol, yn gystal ag eiddo yr Undebau Sirol, eu goreu er ei gael allan yn gynt. Gorwedd y bai o'r gohiriad yn llwyr wrth ddrysau y gweinidogion a'r eglwysi fuont o lawer yn fwy parod i gyfranu nag i wneud eu cyfrifon i fyny, a'u