Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/263

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hanfon i'r ysgrifenyddion; a lled debygol yw, fod rhai, trwy ddiflasdod fel hyn, wedi llwyr gau eu hunain allan, ac er i bob moddion gael eu harferyd i'w cael i mewn, hwyrach na fyddai neb yn fwy parod i feio am eu bod allan na hwynt eu hunain. Byddai yn ormod, feallai, i ddysgwyl perffeithrwydd mewn adroddiad a ysgrifenwyd gan wahanol bersonau, ar wahanol amserau, ac mewn gwahanol fanau; ond odid nad yw enwau rhai personau a lleoedd wedi eu camlythyrenu, am fod anhawsdra i'r cysodydd weithiau i ddeall yr ysgrifenlaw, ond pa wallau bynag addichon fod wedi dygwydd, gobeithio y teflir mantell cariad drostynt, gan i bawb wneud eu goreu i ymestyn at berffeithrwydd. Hyderwn na chynygir mor adroddiad i sylw y cyffredin oddiar deimladau gwag—ymffrostgar a chwyddedig, ond mai yr unig amcan mewn golwg ydyw dangos yr hyn a wnaeth Duw, ac nid yr hyn a wnaeth dynion; ac ein bod yn foddlon tanysgrifio o galon i eiriau per—ganiedydd Israel, (1 Cron. xxix. 14), "Eithr pwy ydym ni, a phwy yw ein pobl ni, fel y caem ni rym i offrymu yn ewyllysgar fel hyn; canys oddiwrthyt ti y mae pobpeth, ac o'th law dy hun y rhoisom i ti." Coflyfrir yr ymdrechion hyn. i'r un dybenion ag y gwnaeth pobl Dduw yn mhob oes o'r byd lyfru eu gorchestion gyda'r achos—sef dangos yr egwyddor fwyaf gymeradwy gyda Duw, a mwyaf diddig gyda dynion, er myned a'r achos yn mlaen, Exod. xxv. 2, "Gan bob gwr ewyllysgar ei