Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/264

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

galon y cymerant fy offrwm." Mae holl hanes y tabernacl a'r deml yn eglur ddangos i ni fod gorfodaeth yn ffiaidd gan Dduw, ac yn gas gan ddyn. Cynygir yr adroddiad, gan hyny, fel colofn o effeithioldeb y gyfundraeth wirfoddol, a hyderir y myn pob eglwys Gynulleidfaol un o honynt er ei gadw gyda chof—lyfrau eraill, er trosglwyddo gwybodaeth am y cydymegniad yn 1834 a 1835 i oesoedd diweddaraf y byd. Wrth ddarllen hanes egnion pobl Dduw yn mhob oes, ymddengys fod undeb a chydweithrediad yn hanfodol angenrheidiol er gwneud gorchestion at adeiladu y tabernacl (Exod. xxxv. 20—30); byddai rhai yn dwyn eu harian a'u haur, a'u trysorau gwerthfawr; eraill a ddygent grwyn hyrddod a daearfoch; a'r gwragedd a nyddent, ac a ddygent o ffrwyth eu llafur; felly, oni buasai i wŷr yr aur a'r arian gyd—gyfarfod mewn cyd—ymdrech â gwŷr y symiau mân yn yr egniad diweddar, ni fuasai 24,000p. o ddyled Cymru wedi eu treiglo i ffwrdd, ond drwy undeb a chydweithrediad, wele hwynt wedi eu dileu. Ac er na ellir cyhoeddi trwy wersyll Israel Cymry, fod y gwaith ar ben (Ex. xxxvi. 6, 7), fel y gwnai Moses gynt, eto dymunem gyd—lawenhau o herwydd yr hyn a wnawd, ac ymosod yn gydunol ar y deng mil sydd eto yn aros, gan wybod na fydd ein llafur yn ofer. Gobeithir y gwna pawb a bwrcaso yr Adroddiad ei gadw yn barchus, fel y gallo yr oloesolion ymddifyru wrth weled ymdrechion eu teidiau, fel yr ymddifyrwn ni