Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/265

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn awr wrth egniadau ein teidiau gyda'r Cymdeithasau Cenadol a Beiblaidd er's deugain mlynedd yn ol, ac hwyrach y byddai yn fendithiol iawn i'r oes sydd yn codi i weled prawf na fu eu teidiau yn ddiofal am drosglwyddo efengyl iddynt hwy, ac y dylent hwythau ymroddi i helaethu yr achos a'i drosglwyddo i eraill. Mae y 10,000p sydd eto yn ol yn galw ar bob sir i barhau yn ffyddlon nes toddi y cwbl; a thaer ddymunir ar bob sir i ofalu na byddo un lle o'i mewn yn myned i draul na gofid afreidiol. Hyd ffurfiad yr Undeb byddai aml i un yn adeiladu y lle, ac fel y gwelai ef yn dda, heb eistedd munyd i fwrw y draul; yna gwelid ef fel gwibiad a chrwydriad, gan adael ei gynulleidfa i soddi dan logau, ac ymgrintachu â'u gilydd; ond o hyn allan na foed i neb adeiladu heb i'r sir ymrwymo i gynorthwyo os bydd rhaid. Cofier hefyd cyhyd ag y byddo deng mil yn aros fod pum cant o bunau o logau ar Iesu Grist i dalu bob blwyddyn. Hwyrach fod rhai wedi meddwl wrth glywed y gweinidogion yn anog i fod yn haelionus, na fyddai galw arnynt am ddim rhagllaw; ond y mae hyn yn anmhosibl, cyhyd ag y byddo congl o'r ddaear heb addoldy ynddi—ac ni byddai yn dda gan un dyn duwiol iddi fod fel hyny; maent hwy i gyd yn mesur eu cariad at Grist wrth eu cariad at ei achos (Act. ii. 44, 45; a 2 Cor. viii. 1—3). Cyn y terfynom, dymunwn ddiolch i'r eglwysi ag oeddynt wedi gwneud ymdrechion mawr