Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/266

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn uniongyrchol cyn ffurfiad yr undeb i dalu dyledion eu hunain, ond a ymroisant wedi hyn i gynorthwyo eraill. Terfynwn yn awr gan obeithio fod amser y diwygiad wedi dechreu ar Gymru, a bod mammon y ddelw fawr ar gael ei gwneud yn gyd—wastad â'r llawr, a bod ysbryd cyhoedd ar esgyn i'r orsedd yn ei le." Dengys ymgyrch y cydymegniad y gwaith mawr ellir wneud drwy ymuno â'n gilydd, yn gystal a'i fod yn brawf arosol o nerth a rhagoriaeth yr egwyddor wirfoddol i gynal achos Duw. Bu talu 24,000p o ddyled yr enwad y pryd hwnw yn foddion i'w alluogi i gerdded yn hwylusach byth wedi hyny. Ond uwchlaw pob peth, hyfryd yw cofio, ddarfod i hyny ddeffroi yr eglwysi yn ysbrydol, ac yr oedd cael gwared o'r cysgadrwydd moesol oedd wedi eu meddianu, yn ychwanegu at lawenydd y rhai oeddynt yn ofni am Arch Duw yn yr oes hono, ac felly yn ddiau yr ydoedd i Mr. Williams. Ond yn ymyl pob llawenydd, y mae galar yn dilyn yma; canys yn Rhagfyr, 1835, bu farw y Parch. D. Roberts, Dinbych, yr hwn oedd yn gyfaill anwyl, mynwesol, a ffyddlon i wrthddrych ein Cofiant. Pregethodd Mr. Williams bregeth angladdol iddo oddiar Actau xiii. 36, 'Canys Dafydd, wedi iddo wasanaethu ei genedlaeth ei hun trwy ewyllys Duw, a hunodd; ac a ddodwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth.' Cyhoeddwyd crynodeb gwerthfawr o'r bregeth hon yn y Dysgedydd, am Mawrth, 1837. Yn y flwyddyn