Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/267

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1835 hefyd, yr oedd yn amlwg fod iechyd Mrs. Williams, anwyl briod ein gwrthddrych, yn gwanychu, a chymylau yn ymgasglu yn ei ffurfafen deuluaidd, yr hon oedd wedi bod yn hynod ddysglaer a digymylau yn ystod y deunaw mlynedd blaenorol. Wedi marwolaeth y Parch. Daniel Evans, Rhaiadr Gwy, rhoddodd yr eglwys yno alwad unleisiol i Mr. Williams i ddyfod yn weinidog iddi. Bernid y buasai symud yno yn profi yn llesol er adgyfnerthiad i iechyd Mrs. Williams. Heblaw hyny, ystyrid y Rhaiadr yn fath o borth rhwng De a Gogledd, ac y buasai ymsefydlu yno yn fanteisiol iawn i Mr. Williams ei hunan, ac i'r holl enwad. Teimlai yntau raddau o ogwyddiad yn ei feddwl i gydsynio â'r alwad o'r Rhaiadr Gwy. Bu dau negesydd dros yr eglwys hono yn ymweled âg ef, y rhai a ddaethent i'r Wern ar ddiwrnod cyfarfod blynyddol eglwys y Rhos, ac aethent eu dau i'r oedfa ddau o'r gloch. Pan yn myned o'r capel, cerddai Mr. Williams rhwng y ddau ymwelydd, a dilynid hwynt gan y Parch. Hugh Pugh o Fostyn, yr hwn a waeddodd, gan ddywedyd, "Mr. Williams, ni welais chwi erioed mor debyg i'ch Meistr mawr ag ydych heddyw." "Sut felly Pugh?" gofynai yntau, "Wel, rhwng dau leidr," atebai y gwr ffraeth o Fostyn. Fodd bynag, ni chaniataodd dwyfol Ragluniaeth iddo ef fyned i Rhaiadr Gwy, a bu yn rhaid i'r ddau swyddog ddychwelyd yn dra siomedig. Ond bu yr eglwys