yn y Rhaiadr yn llwyddianus i sicrhau y Parch. John Griffiths o Fanchester, yn weinidog iddi cyn diwedd y flwyddyn 1835. Erbyn dechreu y flwyddyn 1836, gwelid fod haul bywyd Mrs. Williams yn cyflym gilio tua gorwel ei fachludiad yr ochr hyn, ac er pob medr meddygol, gofal a thynerwch eithriadol o eiddo ei phriod a'i phlant, ni thyciai dim er rhoddi atalfa ar y darfodedigaeth oedd yn prysur fwyta ymaith ei nerth; ac ar ddydd Iau, Mawrth 3ydd, 1836, ehedodd ei henaid o Fryntirion i dragwyddol orphwysfa y saint. Dydd Mercher, y 9fed, claddwyd hi yn mynwent y Wern. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. John Saunders, Buckley. Pregethwyd y Sabbath canlynol ar yr amgylchiad gofidus i dyrfa fawr, gan y Parch. Isaac Harris y Wyddgrug, oddiwrth Diar. x. 7: "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig, ond enw y drygionus a bydra." Ysgrifenodd y Parch. T. Jones, Ministerley, fyr—gofiant am y wraig rinweddol uchod, yr hwn a welir yn y Dysgedydd, Gorphenaf 1836, ac er mantais i'r darllenydd nad yw y rhifyn hwnw ganddo, rhoddwn yma yr hyn a ganlyn allan o'r cofiant, fel y gwelir drwyddo nodweddau cymeriad Mrs. Williams yn ei bywyd, ac ansawdd ei theimladau yn ei chystudd a'i mynudau olaf:—"Yr oedd yn feddianol ar synwyr cryf, a thymher hawddgar. Meddianai ar lawenydd heb ynfydrwydd, a sobrwydd heb bruddder. Meddianai hefyd ar egwyddorion didwyll;
Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/268
Gwedd