Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/269

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

parchai y ffyddloniaid, cydymdeimlai â'r gwan, argyhoeddai y troseddwr yn llym, a ffieiddiai ei chalon y rhodresgar a'r diegwyddor. Wrth eu cymeriad y byddai yn adnabod dynion, ac nid wrth eu meddianau; y rhinweddol a'r dirodres oeddynt ei chyfeillion mynwesol, beth bynag fyddai eu hamgylchiadau bydol. Y rhinweddau uchod, wedi eu gwrteithio â dysgeidiaeth a'u prydferthu à gras, a'i gwnaeth am ei thymhor yn ymgeledd gymhwys i weinidog y cysegr. Yr oedd ei chamrau teuluaidd wedi eu nodi â diwydrwydd ac iawn drefn, nid i'r dyben i ymgyfoethogi, ond i fod yn wasanaethgar i haelfrydedd ac elusengarwch. Yn ei pherthynas â'i phlant, fel mam, daliai y llywodraeth deuluaidd i fyny yn ddoeth a diysgog; rhoddai ar ddeall iddynt yn arafaidd a rhesymol, mai ei lle hi oedd llywodraethu, a'u lle hwythau oedd ufuddhau. Ac wrth eu haddysgu felly, yr oedd ufuddhau yn dyfod yn rhwydd a naturiol iddynt, yr hyn ydyw careg sylfaen tymher hawddgar a chymeriad caruaidd. Ni wnai byth godi eu dysgwyliadau âg addewidion chwyddedig a diles, ond yr hyn a addawai a gyflawnai yn ofalus, yr hyn a dueddai i chwanegu eu cariad ati, a chryfhau eu hyder ynddi. Ni chymerai chwaith ddim oddi—arnynt a ystyrid yn eiddo personol i un o honynt, heb ei ganiatad, ac yn gyffredin talai ei werth am dano, a dysgai hwy i gyfranu hyny at ryw achos da, Fel hyn dangosai iddynt mewn ymarferiad,