Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/271

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Fy Nuw, fy nghariad wyt, a'm rhan,
A'm cyfan yn dragwyddol;
Ni feddaf ond tydi'n y Ne',
Nac mewn un lle daearol.'

Yn ei horiau diweddaf, yn neillduol, yr oedd ei ffydd yn hynod o gref, eglur, a rhesymol, eto yr oedd yn ystyriol o dwyll y galon lygredig, ac yn ofni cymeryd rhyfyg yn lle ffydd ddiffuant. Pan fyddai ei chysuron yn gryfion iawn, gofynai yn fynych, Can this be presumption? A ddichon hyn fod yn rhyfyg? Ac adroddai rai o'i hoff benillion, megys:—

'Tydi yw'r môr o gariad rhydd,
Lle daw'm llawenydd dibaid;
Trogylch fy holl serchiadau wyt,
A chanolbwynt fy enaid.

'Fy enaid atat ti a ffy
Mewn gwresog gry' ddymuniad,
Ond O, mor bell yr wyf er hyn;
O Iesu! tyn fi atad.

Gweddiai yn barhaus am fwy o santeiddrwydd, ac am gael sefydlu ei meddwl yn fwy ar Grist, fel po nesaf i'r nefoedd yr oedd yn tynu, mwyaf i gyd oedd yn ei weled o'i gwaeledd, yn debyg i Paul wedi bod yn y drydedd nef, yn gwaeddi allan, 'Nid wyf fi ddim.' Dywedai yn aml am werthfawredd. crefydd y galon, ac nad oedd crefydd allanol yn werth dim heb grefydd y galon. Ychydig oriau cyn ei hymadawiad, yn ymwybodol fod yr amser yn nesâu, ffarweliodd yn dawel â'i phriod hawdd-