Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/272

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gar, ac â'i phlant anwyl, gan eu cynghori yn y modd dwysaf, a'u rhybuddio yn y modd difrifolaf i fod yn sicr o'i chyfarfod hi yn y nefoedd; yna torodd allan mewn llef eglur, Ac y'm ceir ynddo ef,' ac mai Crist oedd ei phob peth hi am byth. Yr oedd wedi hollol ymroddi i ewyllys yr Arglwydd, i wneuthur â hi fel y gwelai yn dda—yr oedd mor ddiolchgar i'r teulu am bob ymgeledd a wnaent iddi, a phe buasent yn hollol ddirwymau tuag ati. Yn ei munydau olaf, dywedodd ei mherch henaf wrthi fod yn anhawdd iawn ymadael. Atebai hithau, Nac ydyw, nac ydyw.' Dywedai yn fynych na byddai y nefoedd ddim yn lle dyeithr iddi; fod ganddi lawer o gyfeillion yno yn barod. Dysgwyliai y byddai y Parchn. D. Jones o Dreffynon, a J. Roberts o Lanbrynmair, ac eraill gyda hwy, yn ei chroesawu hi i mewn; ond meddyliai nas gallai ysgwyd llaw â hwy i gyd, cyn myned i fwrw ei choron wrth draed yr hwn a fu farw dros y penaf o bechaduriaid. Fel ffrwyth addfed wedi hollol ymddiosg oddiwrth bob peth gweledig, ymadawodd â'i phriod naturiol, ac aeth i fyw at Briod ei henaid; ffarweliodd â'i chyfeillion daearol, i fyned at luoedd o gyfeillion nefol, 'At fyrddiwn o angylion, ac at Iesu, Cyfryngwr y Testament Newydd.'

Bu marwolaeth Mrs. Williams yn ddyrnod mor drom i'w phriod, fel y teimlodd ei fod wedi ei fwrw i'r dyfnder isod, a bod y dyfroedd yn ei amgylchynu