Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/273

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyd yr enaid, a'r hesg yn ymglymu am ei ben, fel yr oedd ar lewygu ac ymollwng i ddigalondid gorlethol. Teimlodd oddiwrth ei brofedigaeth i'r fath raddau, nes yr oedd ei gnawd arno yn curio, a'i enaid ynddo yn galaru, ac ni fynai ei gysuro, oblegid yr oedd Dinas ei gyfarfod wedi ei gwneuthur yn bentwr, ac yntau wedi ei adael heb yr hon yr edrychai i fyny tuag ati, ac y gosodai arni ei obaith mewn awr o gyfyngder. Trowyd Bryntirion yn Fryn gofid a galar iddo.

Er fod ganddo ymlyniad wrth, a serch cryf at eglwysi ei ofal, y rhai y bu yn eu gwasanaethu mor gymeradwy am naw mlynedd ar hugain, eto, wedi marwolaeth Mrs. Williams, teimlodd awydd i symud i ryw gwr arall o winllan ei Arglwydd i lafurio, am y tybiai yn un peth, y buasai newid golygfeydd, a gweled wynebau dyeithr yn ei gynorthwyo i anghofio ychydig ar ei ofid, am yr hwn y meddyliai nad oedd gofid neb fel ei ofid ef. Yn y cyfamser, galwyd arno i wasanaethu am Sabbath i eglwys y Tabernacl, Great Crosshall Street, Liverpool; a chydsyniodd yntau â'r cais. Yr oedd yr eglwys barchus hono heb weinidog ar y pryd, canys yr oedd y Parch. John Breese wedi symud i hen eglwys enwog Heol Awst, Caerfyrddin; ac wedi dechreu ar ei weinidogaeth yno er y Sabbath cyntaf yn 1835. Lletyai Mr. Williams yn Liverpool dros y Sabbath a nodwyd yn nhy Mr. William Evans, Old Post Office Place. Tra yn ymddyddan