Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/274

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

â'u gilydd am yr achos yn y Tabernacl, dywedodd Mr. Evans wrtho, fod arnynt hwy yn y Tabernacl angen mawr am weinidog, a gofynodd iddo, 'Ai ni wyddai efe am neb cymhwys a allasent hwy gael i ddyfod atynt?' Atebodd Mr. Williams, drwy ofyn, A gymerwch chwi fi?' Yr oedd yr atebiad hwnw o'i eiddo wedi synu Mr. Evans, a bu gan lawenydd yn rhyfeddu, ac heb allu credu am beth amser ei fod i'w ddeall fel un o ddifrif yn y mater, ac o'r diwedd dywedodd, Nid yw yn bosibl i ni eich cael chwi yma Mr. Williams!' 'Ys gwn i yn wir,' meddai yntau, byddaf yn meddwl fy mod wedi bod ddigon yn y Wern, ac mai gwell i'r achos, i'm plant, ac i minau hefyd, fyddai i mi symud i rywle arall. Mynegodd Mr. Evans yr ymddyddan a fuasai rhyngddo ef a Mr. Williams, i swyddogion eraill yr eglwys, y rhai pan glywsent hyny, oeddynt fel rhai yn breuddwydio, a llanwyd eu genau à chwerthin, a'u tafod a chanu, oblegid teimlent fod yr Arglwydd ar wneuthur iddynt hwy bethau mawrion, ac am hyny yr oeddynt yn llawen. Anfonwyd dirprwyaeth at Mr. Williams, ac wedi iddynt gael pob sicrwydd y deuai efe atynt, rhoddasent y mater gerbron yr eglwys, a phan y gwnaethpwyd hyny, yr oedd llawer o'r aelodau yn eu sel a'u llawenydd, yn codi eu dwy ddwylaw i fyny dros roddi galwad iddo i ddyfod atynt. Ond yr oedd yno un ferch ieuanc, yr hon a roddodd ei phen i lawr, ac a wylodd yn chwerw dost, ac ni chododd