Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/275

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei llaw dros y penderfyniad. Gofynwyd iddi wrth fyned allan o'r capel, a oedd hi yn erbyn i Mr. Williams ddyfod yn weinidog i'r Tabernacl? pryd yr atebodd hithau gan ddywedyd, 'O nac ydwyf, ond methu a gwybod yr wyf fi beth a wna hen bobl dduwiol y Wern ar ol colli Mr. Williams.' Un enedigol o ardal y Wern ydoedd y ferch ieuanc ragorol hono, ond ni chawsom wybod ei henw, pe amgen, rhoddasem ef yma. Parodd yr hysbysiad o fwriad Mr. Williams i ymadael o'r Wern anfoddlonrwydd drwy yr holl Dywysogaeth. Teimlodd eglwysi y Wern a'r Rhos yn y fath fodd o herwydd ei benderfyniad o'u gadael, fel na ddarfu iddynt geisio ganddo ail ystyried y mater, a theimlodd yntau hyd at golli dagrau o herwydd yr ymddygiad hwnw o'r eiddynt tuag ato. Dichon i'r eglwysi ymddwyn felly, am y tybient nad oedd o un dyben iddynt geisio ganddo aros gyda hwy. Fodd bynag, felly y bu.

Pan wnaethom yn hysbys i'r Parchedig John Thomas, D.D., Liverpool, ein bwriad o ysgrifenu y gwaith hwn, dywedodd wrthym, fod "atebiad" Mr. Williams i alwad eglwys y Tabernacl iddo, yn ei feddiant ef; ac yr anfonai ef i ni mor fuan ag y caniateid iddo amser i edrych dros ei bapyrau, ond er ein gofid, bu y gwr enwog farw cyn cael hamdden i hyny. Ond anfonodd ei fab, y Parch. Owen Thomas, M.A., Llundain, yr atebiadi ni, ac yr ydym yn dra diolchgar iddo am ei ffyddlondeb.