WERN,
Mehefin 26ain, 1836.
At Eglwys Crist, cynulledig yn Great Crosshall St.
Ar ol, yr wyf yn gobeithio, ystyriaeth anmhleidiol a gweddi, yr wyf wedi gwneud fy meddwl i fyny i dderbyn eich gwahoddiad i ddyfod i lafurio yn eich plith fel eich gweinidog. Yr wyf yn gobeithio y byddwn o lawer o gysur a bendith i'n gilydd. Yr wyf yn teimlo yn wir ddiolchgar am fod undeb a heddwch yn ffynu yn eich plith, a'm gweddi yw, ar iddo barhau yn hir.
Ydwyf, yn rhwymau yr efengyl,
W. WILLIAMS.
O. Y.—Ymddengys yn awr y gallaf drefnu pethau, fel ag i ddechreu ar fy ngorchwyl yn eich plith ddechreu Hydref."
Gwelir fod "atebiad" y pregethwr enwog yn hynod o'r syml a dirodres, ac yn nodweddiadol hollol o'r dyn yn ei holl gyflawniadau. Fel yr oedd yr amser iddo i ymadael yn nesâu, teimlai fod datod y cysylltiad oedd rhyngddo â'r Wern, yn galetach gorchwyl nag y meddyliodd, oblegid nis gallai ymgynal i ymddyddan am ei ymadawiad gyda'i gyfeillion hoff Mri. Joseph Chaloner, Richard Pritchard, Robert Cadwaladr,