Thomas Taylor (tad Mrs. Jacob, gynt o Abertawe), Ellis ac Elizabeth Daniell, Frondeg; (rhieni yr Hybarch W. Daniell, Knaresborough), John a Charlotte Griffiths, Caeglas, a llu eraill, fuont yn gydgynorthwywyr ffyddlon iddo yn ei waith mawr a phwysig. Dywedodd wrth ei gyfaill anwylaf, Dr. W. Rees, mai y ddau amgylchiad caletaf a'i cyfarfu ef oedd, colli Mrs. Williams, ac ymadael o'r Wern.
Yr oedd y diwygiad dirwestol newydd ddechreu cynhyrfu y wlad yn ddaionus y pryd hwnw, er ceisio rhoddi atalfa effeithiol ar lifeiriant dinystriol meddwdod yn y tir; ac mewn cyfarfod dirwestol a gynaliwyd yn y Wern, ychydig wythnosau cyn symudiad ein gwrthddrych i Liverpool, y darfu iddo ef arwyddo â'i law yr ardystiad dirwestol; ac ar derfyn y cyfarfod hwnw, wrth gyfeirio at ei ymadawiad, dywedai ei fod yn dymuno eu hysbysu, mai "Ocsiwn Goffi, ac nid ocsiwn Gwrw oedd i fod yn ei dy ef." Cyhoeddasai hyny rhag i neb o honynt gael eu siomi drwy ddysgwyl yn ofer am gwrw, oblegid mai cwrw a arferid roddi i bawb i'w yfed mewn arwerthiadau felly yn y dyddiau hyny. Rhoddodd Mr. Williams, cyn ymadael â'i hen faes, drwy y weithred uchod yn gyhoeddus, ei sel o blaid y diwygiad oedd yn sobreiddio y wlad. Terfynwn y benod hon drwy roddi sylwedd ei bregeth ymadawol yn y Rhos a'r Wern, yr hyn a gymerodd le y Sabbath olaf yn Medi 1836.