Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/279

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Megys y cydnabuoch ni o ran, mai nyni yw eich gorfoledd chwi, fel chwithau yr eiddom ninau hefyd yn nydd yr Arglwydd Iesu." 2 Cor. i. 14. [1]

I. Paham y mae dydd y farn yn cael ei alw dydd Crist?

1. Gwaith Crist yn unig fydd yn cael ei ddwyn yn mlaen y diwrnod hwnw. Bydd gwaith pawb arall wedi ei osod o'r neilldu a'i atal. Bydd y byd mor brysur ar waith y boreu hwn ag erioed, megys yr oedd yn nyddiau Noah-priodi, planu, prynu, gwerthu, adeiladu, &c., hyd y dydd yr aeth Noah i mewn i'r arch, felly bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn.' Rhydd ymddangosiad Crist y dydd hwnw atalfa fythol ar bob gwaith daearol, gwaith yr amaethwr, y masnachwr, y morwr, y celfyddydwr, y teithiwr, gwaith llywodraethwyr, cyfreithwyr, a phob crefftwr o ba grefft bynag y bo,' ac ni chlywir trwst maen melin ar y ddaear mwyach; gwaith pregethwyr yn darfod; ni chlywir swn durtur fwyn yr efengyl mwyach; gwaith Crist fel Barnwr fydd yn unig yn cael ei ddwyn yn mlaen. Ni ddarfu iddo atal gwaith neb pan ymddangosodd ar y ddaear, ond etyl waith pawb pan ymddengys ar y cymylau.

2. Pethau Crist yn unig fyddant yn llenwi meddyliau, ac yn destynau ymddyddanion pawb y diwrnod hwnw; holl achosion trafferthus y byd

  1. Cofiant Mr. Williams, gan Dr W. Rees, tudal 32, 33.