Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/280

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn wedi eu llwyr anghofio gan bawb; holl ofalon galwedigaethau ac amgylchiadau y ddaear wedi eu carthu allan o bob meddwl, y miliynau meddyliau anfarwol wedi eu cydgrynhoi at yr un gwrthddrychau, pob ymddyddanion am bethau eraill wedi tewi, Crist a'i bethau wedi llyncu y cwbl iddynt eu hunain.

3. Y dydd y bydd Crist yn gorphen ei waith mawr yn ngoruchwyliaethau rhagluniaeth a phrynedigaeth, ac y bydd ei fuddugoliaeth ar ei holl elynion yn cael ei pherffeithio.

4. Y dydd y bydd Crist yn ymddangos yn ei lawn ogonianty bydd yn dyfod i'w oed—dydd ei goroniad.

II. Y bydd dynion yn cyfarfod yn y dydd mawr hwnw, yn ol y gwahanol berthynasau a fuasai rhyngddynt â'u gilydd, er eu mawr orfoledd, neu eu mawr drueni.

1. Yn eu cysylltiad cymydogaethol y rhai a fuasent yn cydfyw yn yr un gymydogaeth â'u gilydd, ac felly yn effeithio dylanwad da neu ddrwg y naill ar y llall; byddant yn cyfarfod gerbron brawdle Crist i ateb am y dylanwad hwnw.

2. Cysylltiad masnach a galwedigaethau—Y prynwr, a'r gwerthwr, cydweithwyr.

3. Cysylltiad teuluaidd gwŷr a gwragedd, rhieni a phlant, meistriaid a gweinidogion.

4. Cysylltiad crefyddol, gweinidogion, ac eglwysi, a gwrandawyr. Bydd yr holl gysylltiadau