Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/281

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn ag y buom ynddynt yn y byd hwn, yn effeithio ar ein dedwyddwch neu ein trueni yn nydd Crist. Byddwn yn adnabod ein gilydd, yn cofio am bob peth a fu rhyngom â'n gilydd.

Buom yn y gwahanol gysylltiadau hyn yn fendith neu yn felldith i'n gilydd. Y mae y cysylltiad a fu rhyngof fi a chwithau, bellach er's naw mlynedd ar hugain, yn awr yn darfod, ond nid yw ei effeithiau a'i ganlyniadau yn darfod, nac i ddarfod byth. Yr wyf fi wedi bod yn fy swydd bwysig yn athraw a dysgawdwr i chwi. Cyflwynais y rhan fwyaf o honoch i'r Arglwydd drwy fedydd; cefais yr hyfrydwch a'r fraint o dderbyn llawer o honoch yn aelodau i eglwys Crist; ond yr wyf yn gadael llawer o honoch yn annychweledig. Cyfarfyddwn oll yn nydd Crist, a pha fath gyfarfod a fydd hwnw? Pa fodd y bydd ein cysylltiad hwn yn effeithio ar y naill a'r llall o honom? A gawn ni gyfarfod yno i fendithio a chydlawenhau yn ein gilydd, ddarfod i ni erioed ddyfod i'r cysylltiad hwn? Er gorfoledd, ynte er galar a gofid, y cyfarfyddwn?

III. Bydd y cyfarfod hwnw yn dra gwahanol i bob cyfarfod arall a gawsom erioed.

1. Bydd y cyfarfod mwyaf o bob un—yr holl genhedloedd, yr holl oesau. Ni welwyd un oes nac un genedl oll mewn un cyfarfod o'r blaen, ond bydd holl genedloedd yr holl oesau yn hwn.

2. Byddwn yn cyfarfod yn wastad yma mewn ystad o brawf, ond yno i dderbyn ein gwobr neu ein cosb.