Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/284

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GAN mai yn ngolwg dyffryn prydferth a ffrwythlawn Maelor, yr hwn sydd wedi ei addurno â phalasau heirdd, a thrwy yr hwn y llifa y Ddyfrdwy tua'r môr yn fawreddus yr olwg arni, yr oedd Mr. Williams wedi trigianu er's blynyddoedd, yr oedd symud i'r ddinas fawr fyglyd, aml a phrysur ei phobl, o dawelwch hyfryd Bersham, yn rhwym o beri iddo deimlo ei amgylchoedd newydd yn wahanol a dyeithriol iawn i'r hyn oeddynt yn ei hen faes. Ond derbyniwyd ef gan eglwys y Tabernacl fel rhodd arbenig iddi oddiwrth yr Arglwydd, yn groesawgar a diolchgar. Cafodd dŷ mewn safle ddymunol, sef yn 128, Islington. Yr oedd y pregethwr a'r bardd rhagorol, y cywir Barch. Thomas Pierce, yn gweinidogaethu i eglwys Bethel (Park Road yn awr), er's pedair blynedd cyn hyn; ac yr oedd symudiad Mr. Williams i'r Tabernacl, yn ychwanegiad dirfawr at gysur Mr. Pierce. Er fod ein gwrthddrych wedi gadael y Wern am Lynlleifiad, eto yr oedd cyhoedd fel pe wedi penderfynu mai yn Williams y Wern y mynent ei alw byth, a methodd Liverpool ag ysgaru y Wern oddiwrth ei enw. Dengys a ganlyn o "Hunangofiant y diweddar Barch. Evan Evans, Llangollen," yr hwn a welir yn Dysgedydd 1886, tudal. 451, 452, fel yr awyddai Mr. Williams am weled un teilwng yn cael ei alw i'w olynu yn y Wern a'r Rhos, a'r gofal a ddangosai efe am danynt er wedi eu gadael. "Gwedd-