Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/285

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

usach i ni adael heibio grybwyll y gwahanol fanau y cefais alwadau oddiwrthynt, rhag i neb feddwl fy mod yn gwneuthur bost o hyny; ond y mae un amgylchiad nas gallaf ymatal rhag ei grybwyll. Derbyniais lythyr oddiwrth Mr. Williams o'r Wern, ar ei ymadawiad oddiyno i Lynlleifiad. Yr wyf yn methu a chael gafael yn y llythyr hwnw, er ei fod yn rhywle yn mhlith fy mhapyrau; ond y mae ei ail lythyr ataf ar yr un achos yn awr ar y bwrdd o'm blaen, a dyma gopi cywir o hono:—

"128, Islington, Liverpool,
31st December, 1836.

"My Dear Friend,

There is about five weeks since I wrote to you before, on behalf of the people of Wern and Rhos. They would be very much obliged to you if you could supply there for two or three Sabbaths about the end of next month, or the beginning of February. As I have told you in my last, they have some intention to give you an invitation to come amongst them. I believe they would make from £80 to £100 salary. They wonder what is the reason that you do not answer the letter I wrote before; and indeed, I cannot help but wonder myself. Surely they are worth answering their letter—

 "I am, Yours, &c., W. WILLIAMS.

Mr. C. Griffiths, Palston Mill, near Wrexham.

"P.S.—I have posted the other letter at Liverpool."