Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/286

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr wyf yn rhyfeddu fy hun hefyd ddarfod i mi oedi cyhyd i ateb llythyr cyntaf Mr. Williams. Nid wyf yn cofio yn awr pa fodd y bu hyny, os esgeulusdra ydoedd, yr oeddwn yn haeddol o gerydd llymach nag a gefais gan y gwr parchus a charedig, oblegid y mae troion o'r fath hyny yn annheilwng iawn mewn gweinidog yr efengyl. Ond yr wyf yn cofio yn dda pa beth a barodd i mi nacau cydsynio â chais Mr. Williams a'i gyfeillion, sef fy ystyriaeth nad oeddwn yn meddu cymhwysderau digonol i fod yn olynydd i Mr. Williams o'r Wern yn ei weinidogaeth! Ie, Williams o'r Wern, cofiwch! Y pregethwr enwocaf yn ein plith yn Nghymru! Dychrynais rhag meddwl y fath beth a myned i'r Wern a'r Rhos ar ei ol ef; ac felly ymesgusodais rhag myned yno i'w gwasanaethu gymaint a Sabbath y pryd hwnw."

Gwelir drwy yr uchod y syniad uchel a goleddid gan Mr. Evans am ein gwrthddrych, ac hefyd y pryder a deimlai yntau yn nghylch pobl y Wern a'r Rhos. Ni phallodd eu dyddordeb hwythau ychwaith ynddo yntau, ac ni pheidiasent ag ymgynghori â'u cyn-weinidog enwog mewn achosion perthynol i'r eglwysi. Penderfynodd ychydig gyfeillion i Mr. Williams yn Wrexham a'r amgylchoedd, fod yn ddyledswydd arnynt amlygu eu parch iddo a'u serch ato, drwy gyflwyno iddo anrheg fechan yn arwyddnod sylweddol o hyny. Er fod y symudiad wedi ei gychwyn cyn iddo ym-