Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/296

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llawer eraill o weinidogion o bob enwad, a lleygwyr parchus o bob rhan o'r wlad. Dyma yr wyl ddirwestol enwocaf a welsom erioed. Yr oedd y dyrfa fawr yn cyrhaedd o'r dref i'r Morfa yn agos i filldir o ffordd. Cychwynodd yr orymdaith o Gapel Moriah, yn cael ei blaenori gan y gwŷr enwog a enwir uchod. Aethent drwy y prif heolydd dan ganu:—

"Er gwaetha'r llid yn mlaen yr awn,
Fel llu banerog enwog iawn," &c.

Yn y Morfa yr oedd esgynlawr gyfleus wedi ei darparu, a chafwyd yno gyfarchiadau hyawdl a nerthol gan y cewri a enwyd. Dywedodd Mr. Williams y bydd arweinwyr mewn drygioni yn y byd hwn yn hawdd i'w hadnabod yn y byd arall—y bydd pob llofrudd yn adnabod Cain yno, a phob eilunaddolwr yn adnabod Jeroboam, a phob meddwyn yn adwaen Belsassar, a phob un halogedig yn adwaen Esau, a phob un werthodd Fab Duw yn adnabod Judas, yn uffern byth. Yr oedd yr effeithiau yn drydanol ar y miloedd a wrandawent yno. Pregethodd Mr. Williams hefyd yn y Gymanfa hono, oddiar Actau xvii. 19, 20—"A allwn ni gael gwybod beth yw y ddysg newydd hon a draethir genyt." Yn Y Diwygiad Dirwestol, tudalen 162, dywed y Parch. J. Thomas, D.D., am ei bregeth fel y canlyn—"Pregeth anghymharol, yr eglurhad llawnaf a thecaf o'r egwyddor: Ddirwestol a glywais erioed. Felly y teimlwn y