Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/295

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

meddai, clywais ef yn bedyddio baban unwaith mewn ty, a dywedodd fel hyn: Dyma faban, efe fydd y brenin yn y ty hwn. Rhaid i bawb yn y ty redeg pan fydd ef yn galw. Rhaid i'r fam godi haner nos os bydd yn gwaeddi. Rhaid i'r tad hefyd, adael pob peth os bydd eisiau help arno ef. Y bychan fydd y brenin, a phawb trwy'r ty yn ufuddhau iddo nos a dydd. Rhaid tendio arno, rhaid iddo gael teyrnasu, ond cofiwch, dim ond am flwyddyn. Yn mhen y flwyddyn, diorseddwch ef. Ufudd-dod wed'yn. Ac os na fynwch chwi ufudd-dod yn mhen blwyddyn, fe ymgyndyna yn erbyn ufudd-dod am ei oes.' Teimlwn fod y sylw hwn yn deilwng o'r gwr mawr, oedd yn gymaint o athronydd yn ei eglurebau."

Teimlwn ninau wedi darllen yr uchod, mai gwir y dywediad, "Nid oes dim sydd wir a theilwng yn myned ar goll." Yn y Gymanfa Ddirwestol fawr a nodedig a gynaliwyd yn Nghaernarfon Awst 2il a'r 3ydd, 1837, yn ychwanegol at weinyddu yn ddoeth fel cadeirydd i'r holl gynadleddau, areithiodd a phregethodd Mr. Williams yn hynod o'r effeithiol yn yr wyl hono. Dywed yr Hybarch David Williams (M.C)., Conwy, am y Gymanfa hono, yr hwn oedd yn bresenol ynddi, fel y canlyn:—"Yr oedd yno lu o enwogion y pulpud, megys John Elias, Williams o'r Wern, Christmas Evans, Griffith Hughes (W.), H. Griffiths, Llandrygan, Mon (Eglwyswr Rhyddfrydol a chydwybodol), a