Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/294

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyhoeddid yn Nghaernarfon. Erbyn heddyw, ni wyr bron neb, ond y nesaf peth i ddim o hanes "Y Papyr Newydd Cymraeg,"[1] ond y mae penodi Esgobion Cymreig i'r Cymry yn ol athrawiaeth ein gwrthddrych y pryd hwnw yn beth sydd erbyn hyn yn cael ei hawlio, ac nid diogel ei wrthod, gan mor gryf yw y teimlad Cymreig o blaid hyny. Er wedi gadael Cymru, eto parhai Mr. Williams i dalu ymweliadau mynych â gwlad ei enedigaeth, ac yn arbenig â hen faes ei lafur. Yr ydym yn ei gael ar Gorphenaf 23ain, 1837, yn gweinyddu yr ordinhad o fedydd ar Elizabeth, merch fechan Mr. William ac Elizabeth Griffith, Bersham. Hi oedd yr olaf o blant y Wern a fedyddiwyd ganddo ef. Bedyddiodd ganoedd lawer o blant yn y Wern, a lleoedd eraill, yn ystod ei oes weinidogaethol. Wrth eu cyflwyno i'r Arglwydd drwy fedydd, arferai roddi cynghorion pwysig iawn i'r rhieni ar yr amgylchiad, y rhai a gofid ganddynt, a throsglwyddir hwynt o oes i oes, ac felly gwasanaethant yr oesau, megys yr engraifft a ganlyn a gofnodir yn y Dysgedydd gan y Prifathraw E. Herber Evans, D.D.,—"Daeth yr olygfa hon i'n cof, a sylw glywsom gan yr hen frawd ffyddlawn Mr. Griffith Thomas, Treflys, Bethesda, am Mr. Williams o'r Wern yn bedyddio. Gofynem iddo beth oedd yn nodedig yn y pregethwr anfarwol hwn, ei ateb oedd, yr oedd yn wastad yn dweyd rhywbeth i'w gofio. Er engraifft,

  1. Gweler Llenyddiaeth Fy Ngwlad/Hanes y Newyddiadur Cymreig Tud 13