Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/293

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynt. Gwrandawodd ugeiniau y bregeth hono yn Colwyn yn ei holl nerth cynhenid, ac nid trwy gyfieithiad o ryw ranau o honi, ac aethant ymaith, hwyrach, yn ddiystyr ganddynt, ac ni feddyliasant mwy am dani. Ond saethodd gwreichion o honi, er dan anfantais o gyfieithiad, i feddwl a chalon y wraig foneddig hono a fuont yn foddion i'w goleuo am ei chyflwr fel pechadures, ac am ogoniant a chyfaddasder y drefn fawr o ras yn Aberth ac Iawn y Gwaredwr ar gyfer trueni ac angen yr euog; ac i'w harwain i dderbyn a chofleidio y drefn hono am ei bywyd tragwyddol. Mor ddyfnion, mor gyfriniol a doethion, ydyw ffyrdd a goruchwyliaethau rhagluniaeth a gras. Llenwid breichiau Mr. Williams gan waith yn nglŷn â materion cyhoeddus yn wladol a chrefyddol yr adeg hon. Ymdrechodd o blaid llwyr ddiddymiad y Dreth Eglwys anghyfiawn a gorthrymus. Efe hefyd a ddewiswyd yn drysorydd y dysteb a roddwyd i'r Parch. E. Davies (Eta Delta), Llanerchymedd, yn gydnabyddiaeth am ei wasanaeth gwerthfawr yn nglŷn â'r achos dirwestol, ac yn arbenig fel "Y Llwyrymwrthodwr cyntaf yn Nghymru." Bu Mr. Williams hefyd yn dadleu mewn cyfarfod cyhoeddus yn Liverpool y pryd hwn dros benodi Esgobion Cymreig i Gymru. Ymosodwyd arno yn ffyrnig am hyny, mewn ysgrif wenwynig, yr hon a ymddangosodd yn y rhifyn olaf o'r "Papyr Newydd Cymraeg," yr hwn a