y gwendid yr oedd hi ynddo, ond mynai hi gael Mr. Williams ati bob dydd i'w hystafell, a dywedai ei fod ef yn gwneud llawer mwy o les iddi nag oedd y meddyg a'i gyffyriau yn ei wneud. Y canlyniad fu symud o'i meddwl bob gwrthwynebiad a deimlai i athrawiaeth fawr yr efengyl o Iawn er maddeuant pechodau, a'i dwyn i fod Gristion gostyngededig at Groes Crist. Gwellhaodd o'i chlefyd, gadawodd ei hen gyfeillion crefyddol, ac ymunodd âg un o'r eglwysi Annibynol yn y dref. A phan oedd Mr. Williams yn glaf, deuai i ymweled âg ef bob dydd, a mawr oedd ei serch ato tra fu efe byw. Adroddai Mr. Williams yr hanes i'r ysgrifenydd un bore Sabbath ar yr heol wrth fyned gyda'u gilydd o'i dŷ ef yn Great Mersey Street, i Bethel, Bedford Street, capel ein cyfaill Mr. Pierce. Yn Ninbych yr oeddwn i yn byw y pryd hwnw. Buasai yn dda genyf lawer gwaith pe buaswn wedi holi mwy i fanylion yr hanes, a chael adroddiad o gynwysiad yr ymddyddanion a fuasai rhyngddynt. "Yr oedd hi," meddai ef, "yn foneddiges o alluoedd cryfion iawn, ac o feddwl goleuedig a choeth; ac nid gwaith hawdd ac ysgafn oedd ateb ei gwrthddadleuon a'i rhesymau. Nid oedd wedi ymgymeryd â'i golygiadau Undodaidd yn arwynebol ac ysgafn, ond yr oeddynt yn argyhoeddiad meddwl wedi dwys ymchwiliad, darllen, a myfyrdod; ac felly, nid peth bychan a hawdd oedd iddi ymryddhau oddi wrth-
Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/292
Gwedd