Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/291

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Raffles iddi fod y gweinidog a glywsai yn Colwyn yn awr yn byw yn y dref, ac yr anfonai air iddo ddyfod i edrych am dani. Pan aeth Mr. Williams i'w hystafell, adnabu ef yn union, a chynhyrfodd yr olwg arno ei theimladau yn fawr, a hithau yn wan iawn. Wedi dyfod ychydig ati ei hun, dechreuodd adrodd ei helynt ysbrydol iddo, na chawsai hi ddim heddwch i'w henaid na dydd na nos, er pan y buasai yn ei wrando (trwy gyfieithiad) yn Colwyn, bedair blynedd cyn hyny; ddarfod iddi wneud pob ymdrech i ymlid ymaith a chadw allan yr aflonyddwch o'i meddwl, ond yn ofer. Galwasai o'r diwedd am gymhorth ei chyfeillion, a gweinidogion o'r un enwad y perthynai iddo, ond ni allent ei hiachau o'i harcholl. Yr oedd rhai pethau o'r bregeth hono hefyd yn ymddangos yn bur dywyll iddi, ac yn bur wrthwynebus i'w meddwl, a charasai gael ymddyddan âg ef yn eu cylch. "Yr ydych yn rhy wan yn awr, Madam," meddai yntau, "os caniatewch i mi fyned i weddi yn fyr cyn ymadael, y mae hyny yn gymaint ag a ellwch chwi ddal heddyw, a mi a ddeuaf yma yfory eto." Caniatawyd hyny yn rhwydd iddo. Parhaodd i ymweled à hi bob dydd. Cytunasent fod iddi hi nodi dim ond un o'i gwrthddadleuon ar y tro, ac iddo geisio ateb a symud hono; ac felly aethant yn mlaen am rai dyddiau. Yr oedd y meddyg yn bur anfoddlon pan ddeallodd hyn, gan ddadleu fod ymddyddanion felly yn ormod iddi yn