Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/290

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd yr angenrheidrwydd o Iawn er maddeuant pechodau. Yr oedd yr athrawiaeth y bore hwnw,

"Fel y gwlith tirionaf dystaw,
Sy'n dyhidlo oddi fry.

Ie, "fel gwlithwlaw ar irwellt, ac fel cawodydd ar laswellt." Eisteddodd y foneddiges mewn côr ar gyfer y pregethwr, a Mr. Parry wrth ei hochr, a chyficithai ranau o'r bregeth iddi. Yr oedd yr athrawiaeth yn hollol groes i'w golygiadau a'i chredo hi; er hyny, diolchai yn foneddigaidd i Mr. Parry am ei garedigrwydd iddi. Aeth y Gymanfa heibio, a phawb i'w fan, aeth y foneddiges hithau i'w llety; ac yn mhen rhai dyddiau, dychwelodd adref i Liverpool, ond nid yn hollol yr un un, yn mhob ystyr, y daeth hi adref o Abergele, ag yr oedd hi yn myned yno. Na, yr oedd rhywbeth a glywsai hi o'r bregeth yn Colwyn y bore hwnw wedi cydio, ac wedi glynu yn ei meddwl, fel nad oedd modd ei ysgwyd ymaith, ond cadwai y cwbl hir dymhor yn nghyfrinach ei mynwes ei hun. Rhywbryd yn y flwyddyn 1837, cymerwyd hi yn glaf iawn, ac ymddangosai am hir amser yn annhebyg i wella. Amlygai ddymuniad cryf yn ei chystudd yn fynych am weled y gweinidog a glywsai hi yn pregethu bedair blynedd yn ol yn Colwyn, pe buasai modd; yr oll a wyddai hi am dano ydoedd, mai Mr. Williams oedd ei enw. Aeth un o'r teulu at Dr. Raffles i ofyn iddo ef dalu ymweliad â hi, ac felly fu. Hysbysodd Dr.