Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/289

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

liams wedi pregethu yn Nghymanfa Colwyn yn 1833. Trwy ganiatad, rhoddwn yma yr hyn a geir yn Rhyddweithiau Hiraethog, tudalen 85—87, am y gymanfa hono—"Yn haf—dymor y flwyddyn 1833, cynelid cymanfa flynyddol siroedd Dinbych a Fflint yn Colwyn. Yr oedd boneddiges o Liverpool, yr hon oedd o olygiadau Undodaidd, yn aros yn Abergele ar y pryd, yn mwynhau awyr a dwfr y môr. Daethai y diweddar Barch. T. Parry, o Blackburn y pryd hwnw, yr hwn oedd enedigol o Abergele, adref ar ymweliad â'i rieni a'i hen ardal. Cyfarfu ef â'r foneddiges ar y traeth un diwrnod, ac aeth yn ymddyddan rhyngddynt, yr hyn a fu yn ddechreuad cyfeillgarwch; a mynych y byddent yn nghymdeithas eu gilydd tra y buont yn aros yno. Fore dydd y Gymanfa yn Colwyn, cyfarfu y foneddiges â Mr. Parry ar yr heol mewn cerbyd, yn cychwyn i'r Gymanfa; gofynodd iddo i ba le yr ydoedd yn myned, ac wedi iddo ddywedyd mai i gyfarfod pregethu a gynelid y diwrnod hwnw mewn lle cyfagos, dywedodd hithau pe buasai wedi cael gwybod am y cyfarfod mewn pryd, yr aethai hithau yno, y buasai yn dda iawn ganddi weled cyfarfod pregethu Cymreig am unwaith. Cymhellodd Mr. Parry hi i fyned gydag ef yn y cerbyd, rhedodd hithau i'w llety, paratodd ei hun, ac ymaith a hi i'r Gymanfa. Yr oedd Mr. Williams yn pregethu y bore hwnw ar y testun, "Heb ollwng gwaed nid oes maddeuant." Prif fater y bregeth