Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/288

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddymunol genym. Daeth nifer fawr o gyfeillion yn nghyd i gyfranogi o wledd ddanteithiol a baratowyd ar gyfer eu hangenrheidiau naturiol. Wedi hyny, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus o dan lywyddiaeth y diweddar Charles Griffiths, Ysw., King's Mill; ac anerchwyd y cyfarfod yn briodol gan amryw o frodyr teilwng. Pan y cyfododd Mr. Williams i gyflwyno iddynt ei ddiolchgarwch, yr oedd ei deimladau yn ddrylliedig iawn; ac o

herwydd hyny, yr oedd yr olygfa yn un o'r rhai mwyaf effeithiol a welwyd un amser, ac yn un nad anghofiwyd gan neb o'r rhai oeddynt yn bresenol. Y mae cyfarfod o nodwedd yr uchod yn adfywiol i deimladau y rhai sydd yn rhoddi, yn gystal ac ac i'r hwn sydd yn derbyn. Ymaflodd Mr. Williams â'i holl egni yn ei waith yn ei gylch newydd, a thaflodd fywyd i holl beirianwaith Eglwys y Tabernacl. Crybwyllasom eisioes fod Mr. Wil-