Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/298

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

addoldy yr enwad hwnw, ar ddydd Gwener y Groglith. Cymerwn fy eisteddle yn lladradaidd ar un o'r meinciau ar y llawr neu yn yr oriel. Yr oedd rhyw edmygedd dwfn yn fy meddianu tuag at y gweinidogion a ddeuent i gynal y cyfarfod. Un achos o'r cywreinrwydd am meddianai pan elwn i addoldy Heol y Capel, oedd gweled y gweinidogion yn dyfod i'r pulpud drwy y drws, o'r ystafell fechan yn union o'r tu cefn i'r areithle. Yr oedd hyny yn rhoddi rhyw ddylanwad cyfriniol ar fy meddwl yr adegau hyny. Yr oedd y pregethwr oedd yn bwriadu cyfarch y gynulleidfa yn cael ei hunan ar funydyn wyneb yn wyneb a chynulleidfa fawr; ac o'r ochr arall, yr oedd pobloedd lawer yn cyd-blanu eu llygaid ar y genad oedd i sefyll rhwng y byw a'r meirw. Yr oedd yr olygfa yn peri i mi feddwl am yr archoffeiriad gynt yn dyfod o'r gafell santaidd i blith y bobl. Cofus genyf mai y gweinidogion a ddeuent i Dreffynon i'r wyl flynyddol yr adegau hyny i bregethu, oeddynt y Parchn. John Roberts, Llanbrynmair; R. Jones, Rhuthyn; D. Roberts, Dinbych; I. Harris, Wyddgrug; T. Jones, Newmarket; B. Evans, Bagillt; O. Owens, Rhes-y-cae; W. Rees, Mostyn; ac yn arbenig Mr. Williams o'r Wern. Byddai ef yn gyffredin yn pregethu ddwywaith yn y cyfarfod, naill ai y ddwy noson, neu ynte am ddeg boreu Gwener a'r noson ddiweddaf. Yr wyf yn cofio yn dda fel y byddai y gweinidogion yn cael hwyl i