Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/299

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bregethu. Defnynai eu hathrawiaeth fel gwlith-wlaw ar irwellt, ac fel cawodydd ar laswellt. Gwisgid hwynt â nerth o'r uchelder, ond ymddangosai Mr. Williams i mi fel o dan raddau helaethach o'r eneiniad dwyfol, na neb o'i frodyr. Pan y cyfodai ef, elai allan yn gorchfygu, ac i orchfygu. Yn awr, caniateir i mi geisio rhoddi desgrifiad byr o hono mewn cyfarfod pregethu. Dychmyged y darllenydd ei fod ar nos Wener y Groglith, yn un o'r blynyddoedd rhwng 1833, a 1839, yn cael ei hunan yn addoldy Heol y Capel, Treffynon. Am chwech a'r gloch y mae yr oedfa i ddechreu, ond y mae y capel yn llawn haner awr cyn yr amser, ac erbyn adeg dechreu y mae yr addoldy yn orlawn. Y mae nifer y gwrandawyr yn mhob sedd wedi dyblu, ac y mae y mynedfeydd, y conglau, a'r gwagleoedd yn dyn o bobl o bob gradd yn awyddus i wrandaw cenadwri gweision y Duw Goruchaf. Ond beth am y lluaws pobl sydd wrth y drysau oddiallan? Wel, y mae eu sefyllfa hwy yn debyg i'r eiddo y gwrandawyr hyny yn Capernaum gynt, "Ac yn y man llawer a ymgasglasant yn nghyd, hyd na anent, hyd yn oed yn y lleoedd yn nghylch y drws." Ond atolwg a oes dim modd rhoddi ychydig o ymwared i'r nifer mawr acw sydd yn sefyll ar y llawr ac yn nghyrion uchaf yr oriel? Oes, y mae modd, drwy gyrchu y meinciau o'r ysgoldy, a hyny a wnaed, fel y gallai yr addolwyr eistedd bob yn ail â'u gilydd. Erbyn hyn y mae