iadus, ond yn disgyn i lawr yn weddus, ac yn cuddio yr holl fynwes. Dyna y Parchedig William Williams, Wern-un o dywysogion y pulpud Cymreig yn yr oes o'r blaen. Nid oedd rhaid i'r pregethwr hwn wneuthur unrhyw esgusawd dros sefyll i fyny yn y lle santaidd i gyhoeddi yr efengyl, ac nid oedd eisieu iddo ef gyflwyno cred-lythyrau oddi wrth unrhyw lys daearol er mwyn argyhoeddi dynion ei fod yn deyrngenad (ambassador) wedi ei anfon oddi wrth Dduw, oblegid yr oedd ei fedr, ei amcan, ei ysbryd, ei ddifrifwch, a'i ymroddiad, yn cario argyhoeddiad igydwybod pawb ei fod yn weinidog cymhwys y Testament Newydd. Dyna fe yn darllen ei destun, mewn llais eglur, fel yr oedd pawb yn gwybod yn y fan pa faes y bwriadai ei lafurio, a beth fyddai rhediad ei genadwri. Yn ei ragymadrodd wrth ddangos perthynas y geiriau a'r cyd-destunau, er ei fod yn goeth, nid oedd yn feirniadol iawn, nac yn esboniadol; ond yr oedd y tro hwnw yn gystal a throion eraill y clywais ef, yn egluro cryn lawer ar yr Ysgrythyrau yn ngoleuni ei natur dda ei hun, ei ewyllys dda, a synwyr cyffredin. Wrth ranu ei destun, cododd faterion agos iawn at y gwrandawyr, heb fod yn rhy uchel ar y naill law, nac yn rhy isel ar y llaw arall. Wrth ddefnyddio cymhariaethau i egluro y gwirionedd, yr oedd yn dra gochelgar rhag ymylu at ddim fuasaai yn rhoddi y tramgwydd lleiaf i'r puraf ei chwaeth,
Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/301
Gwedd