Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/302

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac hefyd rhag dweyd dim fuasai yn rhoddi unrhyw feithriniad i halogedigaeth. Yn mhen rhyw ugain munyd yr oedd y pregethwr wedi twymno i'r fath raddau, fel yr oedd yn hawdd gwybod fod y gwirionedd yn llosgi yn ei ysbryd ef, yn gymaint felly, fel y dangosai hyny ei hun yn y llais, llygaid, a gruddiau y pregethwr. Ac yn mhen rhyw haner awr nofiai fel Lefiathan yn ei elfen yn nyfroedd yr efengyl. Mor hapus y cyfeiriai at ddamegion Crist, ac at hanesion yr Hen Destament, ac y gosodai bron bob peth o dan deyrnged er egluro a grymuso ei resymau dros i ddynion dderbyn yr Iachawdwriaeth. Llefarai nid am y bobl, nac yn nghlyw y bobl, ond wrth y gwrandawyr. Erbyn hyn y mae ugeiniau o'r gwrandawyr a lluaws o'r gweinidogion, yn ddiarwybod iddynt eu hunain yn codi i sefyll, blith drafflithi wrando, gan mor fwyned oedd sain yr udgorn arian. O mor eglur, mor wresog, ac mor hyawdl y mae yn llefaru, mor ddengar ydyw ei wahoddiadau, mor resymol ydyw ei gymwysiadau, ac mor ddifrifol ydyw ei apeliadau. Treiglai ei chwys i lawr ar hyd ei ruddiau, a dacw y dagrau heilltion yn tywyllu ffenestri ei lygaid, ac y mae yr holl gynulleidfa wedi ei gorchfygu. Yn nghanol cyffro mawr a theimladau dwysion, terfynodd y gweinidog enwog ei bregeth y noson hono, a phawb yn teimlo ei fod ef bellach, yn lân oddiwrth eu gwaed hwy oll. Clywais Mr. Williams amryw