Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/303

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

droion pan oeddwn yn fachgen, ond yr oedfa uchod sydd yn aros yn fwyaf byw yn fy nghof. Yr ymarferol yn benaf, ac nid yr athrawiaethol oedd rhediad cyffredin ei weinidogaeth. Byddai ganddo doraeth o gymhariaethau i daflu goleuni ar ei faterion. Meddai fedr neillduol i gyflwyno yr efengyl mewn dull enillgar i'w gydgenedl. Ymddangosai fel pe buasai ei enaid wedi ymffurfio mewn mould Gymreig. Yr oedd dullwedd ei feddwl wedi ei wisgo a'i addurno mewn arddull Gymreig. Cymru, Cymry, a Chymraeg, oeddynt wrthddrychau agos iawn at ei galon. At arferion Cymreig, da neu ddrwg, y byddai yn cyfeirio y rhan amlaf yn ei weinidogaeth. Cymhariaethau Cymreig a ddefnyddiai i egluro ei faterion, a diarhebion Cymreig oedd y rhai o'r morthwylion oedd ganddo i yru y gwirioneddau adref, ac i'w rhybedu yn nghydwybodau y gwrandawyr. Pe buasai pagan yn gwrandaw arno y tro cyntaf, buasai yn penderfynu yn sicr mai Cymro gwresog oedd Abraham, ac mai Cymry ffyddlawn oedd Moses, Samuel, a Dafydd; ïe, mai Cymro o'r Cymry oedd yr apostol Paul, ac mai un o genedl y Cymry o ran y cnawd, ac un yn caru ein cenedl ni yn fwy na neb arall oedd Gwaredwr mawr y byd! Gan fod cymaint o'r nodweddion hyn, yn nghyda llawer o bethau pwysig eraill yn ei weinidogaeth, nid oedd yn rhyfedd yn y byd fod Mr. Williams mor boblogaidd, Y mae genyf amryw bethau eraill y gallwyf