Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/304

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyfeirio atynt, ond nid ydynt mor eglur yn fy nghof. Ond y mae dau amgylchiad arall y gallaf eu nodi yn fyr, sef y rhan a gymerodd Mr. Williams mewn ordeiniad gweinidog yn Nhreffynon, a'i ymdrech gyda dirwest pan y sefydlwyd yr achos da hwnw gyntaf yn ein gwlad. Gan fod eglwys a chynulleidfa barchus yr Annibynwyr yn Nhreffynon, yn cael ei gwneud i fyny o Gymry a Saeson y pryd hwnw, rhoddodd yr eglwys yn 1835 alwad i ddau frawd ieuanc i ddyfod atynt i'w bugeilio, sef Mri. D. W. Jones ac Ellis Hughes, y rhai oeddynt newydd ddyfod o'r Athrofa. Yr oedd Mr. Jones i ofalu am y Saeson, a Mr. Hughes i wasanaethu y Cymry, a hyny yn yr un capel. Yn mhen amser, cafwyd cyfarfod i ordeinio y ddau bregethwr, a hyny yr un diwrnod. Ordeiniwyd Mr. Jones yn y boreu, ac yr oedd y gwasanaeth oll yn cael ei ddwyn yn mlaen yn yr iaith Seisonig. Rhoddwyd y charge i'r gweinidog ieuanc gan yr enwog Dr. Raffles, Liverpool. Ordeiniwyd Mr. Hughes yn y prydnawn, ac yr oedd yr holl wasanaeth yn cael ei ddwyn yn mlaen yn Gymraeg. Cymerodd nifer o weinidogion Cymreig ran yn neillduad Mr. Hughes. Rhoddwyd y cynghor i'r pregethwr ieuanc gan Mr. Williams Wern. Yr oeddwn i yn y cyfarfodydd hyny drwy y dydd, yn eistedd yn yr oriel, ac yn talu sylw manwl i'r holl weithrediadau. Yr oedd anerchiad Mr. Williams i'r gweinidog yn effeithiol iawn, ac yn meddu nodweddion cynghor