Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/305

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

apostolaidd. Yr wyf yn ei weled yn awr â llygaid fy meddwl, fel yr ydoedd y pryd hwnw yn sefyll yn y pulpud, a'r gweinidog ieuanc yn nghongl y sedd fawr, ychydig islaw yr areithfa, ac yr oedd apeliadau y cynghorwr fel llais o dragwyddoldeb. Dywedodd lawer o bethau pwysig iawn, a gwnaeth rai sylwadau a ddaethant yn mhen rhyw ddwy flynedd neu dair ar ol hyny, i gael eu hystyriel fel rhagfynegiadau prophwydoliaethol. Dywedodd, 'Fy mrawd ieuanc, gofelwch ar fod cyfrinach agos rhyngoch chwi a'r Arglwydd Iesu Grist. Cofiwch yn wastad mai gwas ydych, ac mai rhyngu bodd eich Meistr a ddylai fod yn amcan penaf eich bywyd. Codwch eich golwg yn ddigon uchel i fyny, dros ysgwyddau ac uwchlaw personau o fri ac awdurdod pa faint bynag fyddo eu taldra, 'Gan edrych ar Iesu,' yn mhob amgylchiad. Os gwnewch chwi hyny, ni chewch byth eich siomi ynddo ef. Nid yw yn beth anmhosibl, nad all y rhai fuont yn fwyaf blaenllaw i'ch cael yma i lafurio, droi eto yn eich erbyn a'ch anesmwytho, fel y teimlwch mai gwell fydd i chwi fyned oddiyma. Gobeithio mai nid felly y bydd pethau, ond fel hyny y gwelwyd mewn rhai lleoedd gweinidogion yn cael eu siomi yn boenus, a phersonau a phethau yn troi allan yn hollol i'r gwrthwyneb i'r hyn a addawyd ac a ddysgwyliwyd. Ond os byddwch chwi ar delerau da â'ch Meistr, sef yr Arglwydd Iesu Grist, fe lyna ef yn ffyddlawn wrthych pe