Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/306

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byddai i bawb droi yn eich erbyn. A oedd craffder cynhenid Mr. Williams yn ei alluogi y pryd hwnw i ragweled nas gallasai y Cymry a'r Saeson drigo yn nghyd, ac addoli yn gytun yn yr un lle felly, a'i fod yn hyny yn gweled arwyddion drygfyd—nis gwn. Ond hyn sydd sicr, ymadawodd Mr. Hughes, gan fyned i fugeilio eglwys Penmain, a bu yn llafurio yno yn llwyddianus hyd ddiwedd ei oes; a chyflawnwyd prophwydoliaeth Mr. Williams yn llythyrenol. Cofiwyd ei eiriau yn hir, a buont yn destyn ymddyddan am lawer o flynyddoedd ar ol hyny.

Bu Mr. Williams mewn Gwyliau Dirwestol yn Nhreffynon, yn dadleu yn hyawdl dros yr achos gwerthfawr hwnw. Yr wyf yn ei gofio yno mewn cynadledd ddirwestol tua'r flwyddyn 1838. Yn nglyn a'r gynadledd hono, yr oedd y Parch. W. Rees (Dr. Rees), Dinbych y pryd hwnw, a Mr. Williams yn cyd—bregethu ar ddirwest yn nghapel eang y Methodistiaid Calfinaidd. Testyn Mr. Rees ydoedd Jos. vii. 12, Ni byddaf mwyach gyda chwi, oni ddyfethwch yr ysgymunbeth o'ch mysg;' a thestyn Mr. Williams ydoedd Act. xvii. 19, 'A allwn ni gael gwybod beth yw y ddysg newydd hon, a draethir genyt.' Yr oedd sylwadau y ddau weinidog enwog yn dra phriodol. Ergydiai Mr. Rees yn effeithiol at ddrygedd y fasnach feddwol, ac eglurai Mr. Williams egwyddorion llwyrymwrthodiad â'r diodydd gwaharddedig, gan