Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/307

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddangos y manteision a'r bendithion a ddeilliai i'r Cymry, ac i holl genedloedd y ddaear, pe deuai dynion i fyw bywyd o sobrwydd. Yr oedd pob peth yn fawr yn yr oedfa hon megys yn yr oedfaon eraill y cefais y pleser o fod ynddynt yn gwrando ar Mr. Williams—capel mawr, cynulleidfa fawr, pregethwyr mawr, materion mawr, hwyliau mawr, ac effeithiau mawr yn dilyn. Gellir dweyd yn ddibetrus na chodwyd er dyddiau yr apostolion, mewn talaeth mor fechan a Chymru, y fath nifer o weinidogion enwog perthynol i'r gwahanol enwadau ag a godwyd yn yr haner diweddaf o'r ganrif o'r blaen, a'r haner gyntaf o'r ganrif hon.

Deled yr Arglwydd i greu, i lunio, ac i wneuthur llawer eto yn ein gwlad i fod yn gedyrn gyda gweinidogaeth yr efengyl, ac i ymaberthu er iachawdwriaeth eneidiau colledig, megys y gwnaeth y Parchedig William Williams o'r Wern."