Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/309

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TEITHIAI Mr. Williams lawer oddicartref, a phregethai yn aml mewn lleoedd pellenig yn y cyfnod hwn ar ei oes. Yr ydym yn ei gael yn Glandwr yn traddodi y Cynhgor ar ordeiniad y Parch. R. Thomas (Hanover wedi hyny), yr adeg hon. Dechreuodd Mr. Thomas, fel y gwelwyd, bregethu yn y Rhos, o dan nawdd Mr. Williams, ac yr oedd yn un o'i ddysgyblion ffyddlonaf. O herwydd yr anghyfleusdra oedd yn nglŷn â theithio y pryd hyny, yr oedd myned o Liverpool i Glandwr yn 1837, yn orchwyl mwy ac anhawddach, nag ydyw yn ein dyddiau cyflym, esmwyth, a chlyd, ni o deithio. Er mai perthyn o ran amseriad i'r benod flaenorol y mae y mynegiad am ordeiniad Mr. Thomas, ond gan nas gallem ei leoli yn y benod hono, heb iddi ymestyn yn ormodol dros ei therfynau, rhoddwn yr hyn a ganlyn am y cyfarfod hwnw yn y benod hon—"Urddwyd ef Ebrill 19eg, 1837. Aeth Mr. Williams ei hen weinidog yr holl ffordd o Liverpool i Glandwr, ac yr oedd yn daith faith yn y dyddiau hyny. Traddododd siars iddo, ac yr oedd y siars hono yn un i'w chofio. Wrtho ef y pryd hwnw y dywedodd Mr. Williams, fod cryfder pregethwr yn ei gymdeithas â Duw; mai y gweddiwr mawr oedd y pregethwr llwyddianus—'Mae yma rywogaeth o gythreuliad tua Glandwr ac Abertawy yma fy mrawd, nad ä nhw ddim allan ond drwy weddi ac ympryd. Mi chwarddan