Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/310

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn eu llewis wrth y'ch gwel'd chi yn troi y lexicons, ac yn manylu ar ystyr geirie, ond mi ddychrynen trwy calone pan wela nhw chi ar eich deulin gyda Duw.' Dywedwyd wyrthym gan rai oedd yn bresenol fod rhyw awdurdod dwyfol yn cydfyned â'i eiriau." [1]

Yr ydym yn ddiolchgar am a ganlyn o eiddo y Parch. J. Davies, Taihirion; yr hwn oedd yn bresenol ei hunan yn gwrando ar Mr. Williams yn pregethu yn y Mynydd Bach a Libanus, Treforris, yn nglŷn â'i ymweliad a Glandwr y waith hono, "Nid wyf yn sicr ai y Sabbath cyn, neu yr un ar ol cyfarfodydd Urddiad y diweddar Barch. R. Thomas, Hanover, yn Siloh, Glandwr, y pregethodd Mr. Williams yn y Mynydd Bach y bore, a Libanus, Treforris, am dri. Yr oedd y tywydd yn nodedig o ffafriol dros yr holl ddyddiau hyny. Ar y Sul, ac yn wir nos Sadwrn, gallesid meddwl fod rhywbeth rhyfedd i gymeryd lle yn y gymydogaeth, canys yr oedd y parotoadau yn mhob teulu yn fawr. Gwelid pobl yn troi allan o'u tai yn blygeiniol iawn boreu Sul, ac ar bob croesffordd, cyfarfyddent eu gilydd, gan dynu tua'r un cyfeiriad, Deuent o gyfeiriad Glandwr, Pentre Esyllt, Tir—deunaw, Cadle Felindre, Llangafel Ucha, a Threforris, gan gyfeirio tua'r capel, a'r fath oedd eu nifer, fel y methodd llawer a chael lle i fewn.

  1. Hanes Eglwysi Annibynol Cymru—Cyfrol v. tudalen 16.