Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/311

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar yr hen stair geryg o'r tu allan y bu raid i mi ac eraill aros, fel na chlywsom ddim ond swn y pregethwr yn pregethu, ac hefyd, swn y bobl wrth fwynhau ei weinidogaeth dyner ac effeithiol. Mawr oedd y canmol ar yr oedfa gan bawb gafodd y fraint o fod i fewn yn ei gwrando. Ond yn Libanus, Treforris, bu'm inau yn fwy ffortunus, cefais fyned i fewn i'r capel, er y bu yn rhaid i mi sefyll, fel llawer eraill, o'r dechreu i'r diwedd, ac yr oedd y tyndra yn fawr. Ei destun yma oedd, 'Dameg y Mab Afradlon.' Nid wyf yn cofio y bregeth, ond nis gallaf byth anghofio ei eglurebau, a'r hanesion a adroddai er mwyn gyru a gwasgu y gwirionedd adref yn fwy effeithiol i feddwl a chalon y gynulleidfa. Wedi iddo dwymno yn ei bwnc wrth ddangos parodrwydd tad yr afradlon i'w dderbyn yn ol, adroddodd am lanc ieuanc yn Liverpool oedd wedi ei golli yn sydyn, a chan yr arferai yfed i ormodedd, ac iddo gael ei weled yn feddw gerllaw y dociau, barnodd y tad a'r fam, ar ol dysgwyl am lawer o amser yn ofer, fod eu mab wedi boddi. Mynasent alarwisgoedd, a dwys iawn oedd eu galar, yn neillduol y fam, yr hon a dreuliai oriau bob nos yn ddigwsg, wrth feddwl am, a hiraethu ar ol eu bachgen anffodus. Ond yn mhen llawer o amser wedi iddynt ei golli, dyma guro ar y drws un noson, ac meddai y fam wrth ei phriod, Dyna John yn curo.' 'O na,' meddai yntau, Mae John wedi darfod am dano." "Y