Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/312

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae yn debyg i gnoc John,' ebai hithau,' a chan ei fod yn debyg, af i weled.' Wedi agor y drws, yr oedd y fam a'r bachgen colledig yn cofleidio eu gilydd, a dagrau gorfoledd yn gwlychu eu gruddiau. Ond pan y bydd yr afradlon yn dychwelyd at Dduw, ni bydd amheuaeth am un foment am dano ef. Y tad oedd y cyntaf i'w weled yn y pellder, ac i redeg i'w gyfarfod, ei gofleidio, ei gusanu, a'i adfer yn ol i'r hen safle, gan wledda, a bod yn llawen. Yr oedd llais y pregethwr mawr erbyn hyn yn nodedig o effeithiol. Ni theimlais erioed

cyn hyn, nac ond unwaith ar ol hyn, fy nghnawd yn ysu am fy esgyrn, a gwallt fy mhen fel yn sefyll wrth wrando yr efengyl. Y fath oedd effaith ei lais arnaf, ac y mae yn amheus genyf nad yr un oedd yr effeithiau ar eraill, fel yr oeddwn i a phawb yno, yn eu dagrau, ac yn teimlo yn dra diolchgar am barodrwydd Duw i dderbyn pechadur. Crybwyllais i mi deimlo unwaith yn gyffelyb, a'r tro hwnw oedd, yn agoriad Capel Sion, Cwmafon, pan yr oedd Mr. Rees, Llanelli, yn pregethu ddydd yr agoriad. Pregethodd Mr. Williams yn Glandwr, yn nghyfarfodydd yr Urddiad a grybwyllwyd eisioes. Efe a bregethodd charge i'r gweinidog, a chan na ddaeth Mr. Williams, Troedrhiwdalar; bu rhaid iddo roddi charge i'r eglwys hefyd y yn noson hono. Canmolid ei bregethau gan bawb yn gyffredinol, a pharhaodd y son am danynt yn hir. Y mae ei lais ef yn fyw yn ei ddylanwad ar