Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/313

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fy nghlust, pa bryd bynag y gwelaf, neu y clywaf ei enw hyd y dydd heddyw.' Megys ag y bu ein gwrthddrych Parchedig o dan fendith Duw, yn fywyd i'r holl enwad yn Sir Ddinbych, felly hefyd y bu efe yn Liverpool, canys effeithiodd ei weinidogaeth yn ddaionus i ddeffroi cynulleidfaoedd yr enwad i fwy o weithgarwch. Anfonai Mr. Joseph Chaloner (ieu.) adref, yr hwn ar y pryd a drigai yn Liverpool, i hysbysu ei dad fod gweinidogaeth Mr. Williams yn y Tabernacl, er yn dyner, eto ei bod yn fwy effeithiol nag y teimlasai efe hi erioed yn y Wern. Nid oedd Mr. Chaloner yn aelod pan yr aeth i Liverpool, ond teimlai i'r byw o dan weinidogaeth ei hen weinidog; ac un nos Sabbath, aeth allan fel arfer i ganlyn y dyrfa, ond cyn myned nemawr oddiwrth y capel, trodd yn ei ol, ac aeth i'r gyfeillach. Pan y gwelodd Mr. Williams ef wedi troi yn ei ol, torodd allan i wylo, ac nis gallasai am enyd fechan lefaru un gair wrth y dychweledig. Ond wedi iddo feddianu ei hun, aeth dros hanes teulu Mr. Chaloner yn effeithiol iawn, a dywedodd mor dda fyddai gan ei dad duwiol yn y Wern, ddeall ei fod wedi troi ei wyneb tua Sion. Bu y gwr da uchod wedi hyny, yn swyddog gwerthfawr yn eglwys barchus Salem, Coedpoeth, lle y diweddodd ei yrfa mewn tangnefedd. Arferai Mr. Williams siarad yn hynod o blaen a chartrefol gyda'r dychweledigion newydd bob amser, ac felly yn y Tabernacl hefyd, megys