Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/314

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y dywedodd wrth yr hen Mr. Dudding, pan y daeth ef at grefydd wedi iddi fyned yn hwyr ar ddydd ei einioes, "Wel James bach, daethoch chwithau ar y coach olaf." Daeth eglwys y Tabernacl i wisgo gwisgoedd ei gogoniant dan weinidogaeth Mr. Williams, ac yn fwy o allu er daioni nag y buasai erioed cyn hyny. Cydweithredai ei gweinidog enwog yn unol a hyfryd â gweinidogion perthynol i enwadau crefyddol eraill yn y dref. Trwy ganiatad Richard Davies, Yswain, U. H., ac Arglwydd Raglaw Mon, a chydsyniad y Mri. Hughes a'i Fab, Wrexham, rhoddwn yr hyn a ganlyn allan o Gofiant y Parchedig Henry Rees, gan y Parch. Owen Thomas, D.D., tudalen 242—244: "Ychydig o wythnosau cyn i Mr. Rees ymsefydlu yn Liverpool, yr oedd Mr. Williams—Williams o'r Wern cyn ac wedi hyny—hefyd wedi symud yma, ac fel y gallesid dysgwyl, yr oedd ei weinidogaeth yn dra chymeradwy, ac yntau ei hunan yn mhob cylch yn dra phoblogaidd. Yr oedd y ddau bregethwr mawr yn nghyrhaedd eu gilydd; ac er nad oeddynt yn cael cyfleusderau mynych i gyd—gyfarfod mewn rhydd—gyfeillach, yr oeddynt yn cael hyny weithiau; ac yr oeddynt yn aml gyda'u gilydd mewn cyfarfodydd o wahanol natur, yn enwedig cyfarfodydd y Gymdeithas Ddirwestol, y rhai oeddynt y pryd hyny yn cael eu cynal yn rheolaidd, ac aethent yn hynod o boblogaidd. Ymunodd y ddau â'u gilydd unwaith, yn ol penodiad