Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/315

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pwyllgor y gymdeithas i ysgrifenu papur ar 'Y Fasnach Feddwol,' yr hwn a gyhoeddwyd yn y Dirwestydd am Tachwedd, 1837, ac a ddaeth allan wedi hyny yn draethodyn wrtho ei hun. Daeth Mr. Rees, trwy ei gydnabyddiaeth â Mr. Williams, i goleddu meddyliau uchel iawn am dano, yn enwedig, a defnyddio ei eiriau ei hunan, am "ei synwyr cyffredin anghyffredin, a'i awydd amlwg, ac eto hollol ddirodres, i fod yn wir ddefnyddiol." Yr oedd Mr. Williams, o'r tu arall, yn edmygu Mr. Rees yn fawr iawn. Ni chollai byth unrhyw gyfleusdra a gaffai i fyned i wrandaw arno pan y dygwyddai fod yn pregethu yn rhywle yn ei gyrhaedd ar un o nosweithiau yr wythnos. Ac yr oedd bob amser yn ei fwynhau yn fawr; a gwelwyd ef yn fynych yn wylo wrth wrando arno. Byddai yr un pryd yn teimlo ei fod yn dwyn gormod o fater i mewn i'w bregeth, ac yn rhoi gormod o dreth ar sylw ei wrandawyr; a thybiai y buasai y bregeth yn fwy buddiol pe buasai yn llai. Clywsom gyfaill yn dywedyd ei fod ef yn cydgerdded â Mr. Williams ryw noswaith hyd at ei dŷ yn Islington, ar ol bod yn gwrandaw eu dau ar Mr. Rees yn Pall Mall. Wedi i Mr. Williams siarad a chanmol llawer ar y bregeth, o'r diwedd, meddai, "Ond yr oedd hi yn bregeth rhy fawr o lawer; yr oedd yn beichio gormod ar y bobl. Hi wnelsai dair o rai da iawn. Yr wyf fi yn sicr fy mod i fyny â'r cyffredin oedd yn y, capel yna heno, eto yr oedd hi bron a fy