Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/316

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llethu i; ac yr oeddwn i agos a meddwl ei fod ef ei hunan yn cael digon o waith gyda hi." Y mae y sylw yma yn cyfateb yn gwbl i sylw arall o eiddo Mr. Williams am dano, a roddir i ni gan ei frawd "Mae yn gofus genyf," meddai Dr. Rees, "pan oedd yn byw yn Phythian Street, yn fuan wedi iddo symud i Liverpool, i mi dalu ymweliad âg ef gyda y diweddar Williams o'r Wern, yr hwn oedd yntau yn byw yn Liverpool y pryd hwnw. Wedi ychydig ymddyddan, dywedodd fy mrawd, ei fod er ys dyddiau yn trafferthu gyda rhyw destun ag y teimlai awydd pregethu arno, ac yn methu cael boddlonrwydd iddo ei hunan ar ei wir feddwl. Y mae yr esbonwyr yma sydd gen i, yn fy nyrysu,' meddai, 'yn hytrach nag yn fy moddloni arno. Ac y mae rhywbeth yn dweyd ynof, nad oes yr un o honynt wedi gallu myned i ysbryd ei feddwl; ac yr wyf yn methu myned iddo fy hun, i ddim boddlonrwydd.' Cynygiodd Mr. Williams ryw syniad ar y testun i'w sylw. Bu yntau yn ddystaw am enyd, gan droi y syniad hwnw yn ei fyfyrdod. Ac, eb efe, yn mhen ychydig 'Y mae rhywbeth yn y golygiad yna yn siwr; ond y mae yn amheus gen' i ai dyna yw y cnewyllun er hyny.' Yn ystod yr ymddyddan, dywedai Mr. Williams-'Pregethwr didrugaredd iawn i bregethwyr eraill ydych chwi.' 'Wel, paham yr ydych yn dweyd hyny,' gofynai yntau. 'Paham? am fod arnoch eisiau dihysbyddu pob