Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/317

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

testun yr ymafloch ynddo, fel na fedro neb bregethu arno ar eich ol.' 'Beth a wnai y dyn a ddeuai ar ol y brenin?' 'Y mae Henry Rhys wedi bod yn pregethu ar y testun hwn, ni wiw i neb gynyg arno ar ei ol o, ddywed pob pregethwr.' 'Wel, sut y byddwch chwi yn gwneud,' gofynai y llall. 'Wel, cymeryd y byddaf fi,' meddai Mr. Williams. 'ryw feddwl neu awgrym fyddo yn y testun yn ateb i'r pwrpas fyddo genyf ar y pryd mewn golwg, a cheisio gwneud y goreu a allaf o hwnw; a gadael y testun fel y gallaf fi fy hunan, a phob un arall a ewyllysio fyned ato rywbryd drachefn.' 'O,' ebai yntau, 'fe fydd digon yn mhob testun ar fy ol inau.' 'O!' meddai Mr Williams, 'ni raid i'r testun na neb arall ddiolch i chwi am hyny,' ac ar hyny chwarddodd y ddau. Gresyn na buasai genym fwy o adgofion am y gwŷr enwog hyn, pan y dygwyddent gyfarfod â'u gilydd." Yn ngoleuni yr ymddyddan blaenorol, gwelir, nid yn unig anwyldeb y gwŷr enwog at eu gilydd, ond ceir hefyd gipdrem ar nodwedd wahanol y ddau fel pregethwyr. Rhoddai Mr. Williams lawer o gynghorion gwerthfawr i bregethwyr ieuainc yn nglŷn â'u gwaith pwysig. Wedi iddo ef symud i Liverpool, y dechreuodd y Parch. H. Ellis, Llangwm, ar y gwaith o bregethu yr efengyl. Aeth yr olaf i dalu ymweliad â'i hen feistr enwog yn Liverpool. Gofynodd Mr. Williams iddo, "A fyddi di yn breuddwydio weithiau dy fod yn pregethu,"