Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/318

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Na, nid wyf fi wedi breuddwydio eto," oedd yr atebiad. "Ho, nid yw hi ddim wedi myned yn galed arnat ti eto, rhaid i ti freuddwydio, a methu cysgu, cyn y byddi yn iawn. Hefyd, paid a dysgu pechaduriaid i bechu pan fyddi yn pregethu. Gwelaist mewn hen dai tô gwellt, yn Nghymru gynt, astyllen wedi ei rhoddi o dan y tô, yn groes i'r llawr, i ddal y bara ceirch. Rhyw ddiwrnod pan yr oedd y fam yn myned oddicartref, dywedodd wrth y plant, "Peidiwch chwi a chymeryd ffon eich tad o gil y drws acw, i daflu y bara ceirch yma i lawr." Nid oedd y plant wedi sylwi nemawr ddim ar y bara ceirch, na meddwl am eu taflu i lawr, na deall dim oll pa fodd i gyflawni hyny. Ond wedi i'r fam ddangos y ffordd iddynt i'w cael i lawr, ac iddi fyned ymaith, y peth cyntaf a wnaethent oedd myned i ymofyn y ffon i'w taflu i lawr yn deilchion. Gwnaethant y gwaith yn rhwydd, a hyny am fod y fam wedi dangos iddynt pa fodd i'w gyflawni, wrth eu gosod ar eu gocheliad rhag hyny. Bydd pregethwyr weithiau yn son am bechodau duon, ac wrth osod eu gwrandawyr ar eu gocheliad rhagddynt, disgynant yn boenus at fanylion, na wyddai llawer o'r gwrandawyr ddim am danynt cyn hyny, ond agorwyd eu llygaid gan hathrawon o'r pulpud, a dysgwyd hwynt ganddynt i bechu—paid a dysgu pechaduriaid i bechu, beth bynag ar a fo." Teimlwn fod cryn lawer o'r nodwedd athronyddol oedd mor amlwg yn Mr,